Neidio i'r cynnwys

Dewis blaenoriaethau a llunio gweledigaeth ar gyfer trefi Powys

Mae Cyngor Sir Powys ynghyd â’i bartneriaid yn y broses o ddatblygu cyfres o gynlluniau newydd, a rhai wedi eu diweddaru, i gefnogi adferiad a thwf trefi’r sir. 

Mae tîm o arbenigwyr o dan arweiniad Owen Davies Consulting yn gweithio gydag amryw o drefi i helpu adnabod y blaenoriaethau a pharatoi gweledigaeth ar gyfer eu twf a ffyniant economaidd. Ar y dudalen hon, fe welwch ddolenni i bob tref rydym yn eu cefnogi ar hyn o bryd, gyda gwybodaeth gefndirol, syniadau a gweledigaeth ar gyfer eu dyfodol. Fe welwch fapiau rhyngweithiol ar gyfer pob tref a ffordd o gyflwyno eich barn.

Town Investment Plan Initiative