Neidio i'r cynnwys

Rhowch eich Barn ar Gynllun Creu Lleoedd Drafft Llanfair Caereinion

Ers canol 2024, mae Owen Davies Consulting wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Tref Llanfair Caereinion a rhanddeiliaid lleol i ddatblygu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer canol y dref. 

Mae’r Cynllun yn amlinellu gweledigaeth a phrosiectau i’w blaenoriaethu er mwyn helpu i ddenu buddsoddiad i Llanfair Caereinion dros y 5-10 mlynedd nesaf.

Mae’r Cynllun drafft yn cynnwys cynigion ar gyfer:
  • Creu parc ar lan yr afon gyda lle parcio a man cymunedol ar Iard Morgan
  • Gwella llecynnau allweddol fel hen Sgwâr y Farchnad a Chae’r Mynydd
  • Gwell llwybrau cerdded rhwng y Rheilffordd a chanol y dref
  • Gwneud ein pyrth a phwyntiau cyrraedd yn fwy deniadol
Mae arnom nawr eisiau clywed eich barn ar y cynigion hyn. Mae eich gwybodaeth leol a’ch ymateb yn hanfodol er mwyn cael y Cynllun hwn yn iawn.

Sut alla’ i roi sylwadau?

Wrth ddefnyddio’r dolenni isod, byddwch yn gallu:
  • Gweld y Cynllun drafft
  • Gadael sylwadau ar gynigion penodol wrth ddefnyddio’r map rhyngweithiol
  • Rhannu eich syniadau cyffredinol trwy ein ffurflen adborth
Gallwch hefyd weld y cynigion yng nghyntedd Institiwt Llanfair o 24 Chwefror ymlaen, a chyfarfod y tîm yn ein sesiwn galw-heibio yn Ystafell Ieuenctid yn yr Institiwt ddydd Iau 6 Mawrth (2pm-7pm).

Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg tan ddydd Gwener 21 Mawrth 2025. Bydd eich adborth yn helpu dylanwadu ar fersiwn derfynol y Cynllun,  a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ceisiadau cyllid am brosiectau gwella.

Comisiynwyd y gwaith o ddatblygu’r Cynllun Creu Lleoedd gan Gyngor Sir Powys ac fe’i ariannwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Llinell Amser

Ymchwil cefndir, adnabod yr ystyriaethau a’r syniadau allweddol

Haf 2024

Dadansoddiad SWOT a chynigion cychwynnol

Hydref 2024

Y cynllun drafft ac adborth y cyhoedd

Chwefror – Mawrth 2025

Cynllun terfynol

Ebrill 2025

Dewiswch opsiwn ar gyfer Llanfair Caereinion