Neidio i'r cynnwys

Rydym yn ymgynghori â chymuned Llanfyllin ar set o syniadau a fydd yn ffurfio Cynllun sy'n llywio buddsoddiad ac yn denu cyllid i'r dref am y 5+ mlynedd nesaf.

Yn dilyn cyfnod ymgynghori cychwynol Yn dilyn cyfnod ymgynghori cychwynnol (Mehefin – Awst), crëwyd Cynllun Ymgynghoriad Drafft sy'n cynnwys set o syniadau ar gyfer gwella canol y dref. Rydym unwaith eto’n gwahodd cymuned Llanfyllin i roi sylwadau ar ein cynigion i helpu dylanwadu ymhellach ar y Cynllun newydd.

Datblygwyd y syniadau yn seiliedig ar ymchwil lleol, cyfarfodydd â rhanddeiliaid ac ymgynghoriadau â nifer o sefydliadau lleol gan gynnwys y Cyngor Tref a Chyngor Sir Powys. Mae'r syniadau wedi'u cynllunio i dyfu'r economi leol, cynyddu nifer yr ymwelwyr a bywiogrwydd y dref, gwella cyfleusterau a seilwaith lleol, a gwella mannau gwyrdd a chymunedol yng nghanol y dref.

Bydd y syniadau a'r adborth lleol arnynt yn ffurfio sail Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Llanfyllin a fydd yn cael ei ddatblygu yn dilyn yr ymgynghoriad hwn a'i gyhoeddi ym mis Hydref.

Sut allaf ddarllen a rhoi sylwadau ar y Cynllun Ymgynghoriad Drafft?

Wrth ddefnyddio’r dolenni isod gallwch weld y Cynllun Ymgynghoriad Drafft a gadael eich sylwadau a’ch ymateb.

  • Gweld y Cynllun Ymgynghoriad Drafft
  • Ateb ychydig o gwestiynau pwysig ar ein ffurflen sylwadau

Sylwadau erbyn 18fed o Hydref.

Llinell Amser

Ymchwil cefndir, adnabod yr ystyriaethau a’r syniadau allweddol

Ebrill i Mai 2023

Dadansoddiad SWOT a chynigion cychwynnol

Mehefin – Gorffennaf 2023

Y cynllun drafft ac adborth y cyhoedd

Gorffennaf – Hydref 2023

Cynllun terfynol

Hydref 2023

Dewiswch opsiwn ar gyfer Llanfyllin