Neidio i'r cynnwys

Rydym yn eich gwahodd chi i roi sylwadau ar Gynllun drafft, a rhoi eich syniadau eich hun am fuddsoddi yn adferiad economaidd a datblygiad cynaliadwy Llanidloes

Mae Cyngor Sir Powys wedi penodi Owen Davies Consulting a Chilmark Consulting i weithio gyda rhanddeiliaid lleol, y Cyngor Tref a’r gymuned fusnes i gwblhau Cynllun Buddsoddi Tref ar gyfer Llanidloes.

Llanidloes yn rhan o’r fenter Trawsnewid Trefi, cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi twf a gwydnwch trefi ar hyd a lled Powys. Bydd creu’r Cynllun ar gyfer Llanidloes yn ei chysoni â threfi eraill yn y Sir sy’n paratoi eu cynlluniau eu hunain.

Nod y Cynllun wedyn yw helpu adnabod y bylchau a’r camau y bydd angen eu cymryd yn fuan i gefnogi adferiad economaidd a chynaliadwyedd y dref. Bydd Cynllun Llanidloes yn golygu bod y dref yn gallu manteisio ar gyfleoedd am gyllid yn y dyfodol wrth iddynt ddod ar gael.

Pa fath o Gynllun?

Mae’r cynllun yn seiliedig ar egwyddorion cydlunio ac mae wedi cynnwys rhanddeiliaid lleol a sefydliadau allweddol o’r cychwyn. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar weledigaeth ar gyfer y dref a gefnogir gan gyd-flaenoriaethau a chanlyniadau.

Lle allaf i ddarllen y Cynllun drafft a rhoi sylwadau arno?

Using the links below you can view the draft plan and leave your comments and feedback.

Sylwadau erbyn Dydd Gwener 31 Mawrth 2023.

Llinell Amser

Ymchwil cefndir, adnabod yr ystyriaethau a’r syniadau allweddol

Ebrill i Mai 2023

Dadansoddiad SWOT a chynigion cychwynnol

Mehefin – Gorffennaf 2023

Y cynllun drafft ac adborth y cyhoedd

Gorffennaf – Hydref 2023

Cynllun terfynol

Hydref 2023

Dewiswch opsiwn ar gyfer Llanidloes