Neidio i'r cynnwys

Rydym yn eich gwahodd chi i roi sylwadau ar Gynllun drafft, a rhoi eich syniadau eich hun am fuddsoddi yn adferiad economaidd a datblygiad cynaliadwy Ystradgynlais

Mae Cyngor Sir Powys wedi penodi Owen Davies Consulting a Chilmark Consulting i weithio gyda rhanddeiliaid lleol, y Cyngor Tref a’r gymuned fusnes i gwblhau Cynllun Buddsoddi Tref ar gyfer Ystradgynlais.

Ystradgynlais yn rhan o’r fenter Trawsnewid Trefi, cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n cefnogi twf a gwydnwch trefi ar hyd a lled Powys. Bydd creu’r Cynllun ar gyfer Ystradgynlais yn ei chysoni â threfi eraill yn y Sir sy’n paratoi eu cynlluniau eu hunain.

Nod y Cynllun wedyn yw helpu adnabod y bylchau a’r camau y bydd angen eu cymryd yn fuan i gefnogi adferiad economaidd a chynaliadwyedd y dref. Bydd Cynllun Ystradgynlais yn golygu bod y dref yn gallu manteisio ar gyfleoedd am gyllid yn y dyfodol wrth iddynt ddod ar gael.

Pa fath o Gynllun?

Mae’r cynllun yn seiliedig ar egwyddorion cydlunio ac mae wedi cynnwys rhanddeiliaid lleol a sefydliadau allweddol o’r cychwyn. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar weledigaeth ar gyfer y dref a gefnogir gan gyd-flaenoriaethau a chanlyniadau.

Lle allaf i ddarllen y Cynllun drafft a rhoi sylwadau arno?

Wrth ddefnyddio’r dolenni isod gallwch weld y cynllun drafft a gadael eich sylwadau a’ch ymateb.

Sylwadau erbyn Dydd Gwener 17eg Mawrth 2023.

Llinell Amser

Ymchwil cefndir, adnabod yr ystyriaethau a’r syniadau allweddol

Ebrill i Mai 2023

Dadansoddiad SWOT a chynigion cychwynnol

Mehefin – Gorffennaf 2023

Y cynllun drafft ac adborth y cyhoedd

Gorffennaf – Hydref 2023

Cynllun terfynol

Hydref 2023

Dewiswch opsiwn ar gyfer Ystradgynlais