Neidio i'r cynnwys

Crynodeb Drafft y Cynllun Creu Lleoedd
Trefaldwyn Holiadur yr Ymgynghoriad

Rhagymadrodd  a Chefndir

Am y Cynllun Creu Lleoedd

Yn gynharach eleni, penododd Cyngor Sir Powys Owen Davies Consulting i weithio gyda rhanddeiliaid lleol i gynhyrchu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer canol eich tref fel rhan o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd y Cynllun Creu Lleoedd, fydd yn cynnwys Cynllun Gweithredu wedi'i flaenoriaethu, yn llywio buddsoddiad ac yn helpu sicrhau cyllid yn y dref am y 5+ mlyneddf nesaf.

Am yr holiadur hwn

  1. Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ganol eich tref a beth rydych yn meddwl sydd angen ei wella, i ffurfio gweledigaeth ar y cyd.
  2. Darparwch adborth (mewn cymaint o fanylder ag yr hoffech) ar y syniadau ar gyfer canol y dref fel y gallant gael eu datblygu ymhellach.

Os nad ydych wedi darllen y Cynllun Gweithredu drafft eisoes, gallwch ei ganfod yma.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr adborth a ddarparwch trwy'r holiadur hwn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'r adborth a gasglwyd o'r map rhyngweithiol a digwyddiad galw i mewn cyhoeddus i ffurfio creu'r Cynllun Creu Lleoedd terfynol.

Y WELEDIGAETH AR GYFER CANOL EICH TREF

Bydd y Cynllun Creu Lleoedd terfynol yn cynnwys gweledigaeth ar gyfer dyfodol canol eich tref.

Er mwyn ffurfio hyn, dywedwch wrthym beth yw cryfderau a gwendidau canol eich tref yn eich barn chi a'r ffyrdd y gallai gael ei wella ynddynt, yn ôl y themâu canlynol.

Lleoliad: lleoliad canol y dref mewn perthynas a thai, cyflogaeth, hamdden a chyfleusterau eraill.

Symudiad: y graddau mae cerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gyfleus, ac os oes gennych ddewis trafnidiaeth i osgoi bod yn ddibynnol ar geir preifat.

Parth cyhoeddus: y graddau y mae strydoedd a mannau cyhoeddus yng nghanol y dref wediu cynllunion dda, yn groesawgar, yn ddiogel ac yn gynhwysol, ac a hunaniaeth unigryw.

Cymysgedd o ddefnyddiau: thy graddau y mae canol eich tref yn darparu cyfleoedd ar gyfer busnesau lleol, gweithgaredd cymunedol, mynediad at wasanaethau, cyflogaeth leol.

Pobl a chymuned: y graddau y gallwch fod yn cymryd rhan mewn ffurfio canol y dref a bod anghenion, dyheadau, iechyd a llesiant y gymuned leol yn cael eu hateb.

Hunaniaeth: y graddau y mae rhinweddau cadarnhaol, unigryw canol eich tref yn cael eu hadnabod.